Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Claf yn annog mwy o roddwyr gwaed a phlatennau i ddod ymlaen

Mae dyn o'r Bont-faen yn galw ar fwy o bobl i roi gwaed, platennau neu fêr esgyrn ar ôl cael diagnosis o anhwylder gwaed prin.

Yn rhedwr brwd gyda ‘Cowbridge Moovers’ am nifer o flynyddoedd, sylwodd Gethin Charles ar ddirywiad araf yn ei amseroedd rhedeg a'i ddiffyg anadl wrth ymarfer corff. O fewn oriau i wneud yr alwad i'w feddyg teulu, cafodd Gethin ei anfon i Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, i dderbyn trallwysiadau gwaed a phlatennau am y tro cyntaf.

Yn y Sgowtiaid, rydyn ni bob amser yn dweud 'gadewch y lle yn well nag yr oeddech chi wedi ei ganfod', ac rwyf am wneud yr un peth gyda'r rhoddion hael rydw i wedi'u derbyn.

Gethin Charles

Yn ddiweddarach cafodd Gethin, sy’n 46 oed, ddiagnosis o anemia aplastig, sef anhwylder gwaed prin a difrifol sy'n effeithio ar tua 150 o bobl bob blwyddyn yn y DU. Mae nifer y celloedd gwaed sydd fel arfer yn cael eu creu gan y mêr esgyrn yn lleihau, gan leihau gallu'r gwaed i geulo a chario ocsigen, sy'n gallu bod yn ddifrifol iawn.

Nawr mae Gethin yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn dod ymlaen i gefnogi cleifion yn ei sefyllfa drwy roi gwaed, platennau neu fêr esgyrn gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Dywedodd Gethin am ei brofiad: "Dydw i ddim yn gwybod beth fyddai'n digwydd i mi oni bai am roddwyr oedd yn dod ymlaen i roi gwaed a phlatennau."

O fewn tri mis, roedd Gethin wedi derbyn dros 30 trallwysiad o waed a phlatennau er mwyn helpu rhoi hwb dros dro i nifer y celloedd yn ei gorff i gyrraedd lefel dderbyniol.

"Doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i yn y sefyllfa yma lle mae angen i mi dderbyn gwaed a chynhyrchion gwaed. Digwyddodd y cyfan mor gyflym.

"Dwi mor falch bod yna bobl sydd eisoes wedi rhoi gwaed gan ei fod wedi gwneud fy mywyd yn fwy cyfforddus yn y cyfnodau cyn i mi gael fy nhriniaeth i wella'r afiechyd.

"Mae'n bwysig iawn i bobl roi gwaed oherwydd fyddwch chi byth yn gwybod pryd y byddwch chi neu'ch teulu ei angen."

Dydy helpu'r rheini sydd â chanser y gwaed erioed wedi bod yn haws.

17-30 oed? Cofrestrwch heddiw

Bydd angen trawsblaniad mêr esgyrn ar y rhan fwyaf o gleifion sydd ag anemia aplastig i oresgyn y clefyd. Fodd bynnag, mae rhai meddyginiaethau wedi'u cynhyrchu y gellir eu defnyddio.

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: "Diolch i haelioni rhoddwyr yn rhoi o'u hamser, gall Gethin a chleifion yn union fel ef dderbyn y trallwysiadau gwaed a phlatennau hanfodol sydd eu hangen arnynt.

"Yn anffodus, o ran rhoddion mêr esgyrn, nid yw tri o bob deg claf ar draws y byd yn dod o hyd i’r cydweddiad addas sydd wirioneddol ei angen arnynt.

"Yn ddiweddar, rydym ni wedi lansio pecyn swab ar gyfer unrhyw un rhwng 17 a 30 oed a hoffai ymuno â'n Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru. Mae'r pecynnau newydd hyn yn cael eu danfon i'ch drws, gan ganiatáu i'r rhai sydd ddim yn rhoddwyr gyda ni i gofrestru'n hawdd."

Mae gan Gethin berthynas gydol oes gyda'r Sgowtiaid yn y Bont-faen ar ôl ymuno pan yn ddim ond wyth oed cyn dod yn arweinydd tua 25 mlynedd yn ôl.

Meddai ef: "Yn y Sgowtiaid, rydyn ni bob amser yn dweud 'gadewch y lle yn well nag yr oeddech chi wedi ei ganfod', ac rwyf am wneud yr un peth gyda'r rhoddion hael rydw i wedi'u derbyn.

"Dwi eisiau rhoi yn ôl. Ni allaf wneud hynny fy hun oherwydd fy mod wedi cael trallwysiadau, felly rwy'n gobeithio y bydd rhannu fy stori yn annog eraill i ystyried rhoi."